Work

‘Pwy a gyfyd Cymru? By whom shall Wales be raised?’ Chwarter canrif o bolisi addysg datganoledig yng Nghymru

Year: 2024
Type: article
Abstract: Yn ei drosolwg o fywyd y diwygiwr addysg Thomas Charles (Y Bala), mae'r hanesydd Ieuan Gwynedd Jones yn dyfynnu gwireb grefyddol ac addysgol a oedd yn peri pryder i gyfoedion 'cydwybodol a llythrennog' Charles yn y ddeunawfed ganrif: 'Pwy a gyfyd Cymru, canys bechau yw?By whom shall Wales be raised, for she is small?' ( Jones, 1963, t. 31).Mae Smith (2016, t. 22) wedi myfyrio ar sut roedd y wireb hon yn gofyn cwestiwn tyngedfennol a chynhennus mewn Cymru a oedd yn prysur gofleidio newid cymdeithasol, economaidd a chrefyddol, trwy ofyn pwy oedd, a phwy ddylai fod, yn ofalwr a stiward 'iachawdwriaeth ac ysgolheictod' Cymru.Rydym wedi dewis y geiriau hyn fel y rhagair i'r erthygl olygyddol hon gan fod y cwestiwn yn dal i ysgogi myfyrdod ac yn werth ei ofyn.Yn wir, mae'n adleisio ar adeg pan fo'r Gymru gyfoes yn cael ei hun yng nghanol cyfnod o newid addysgol llawn mor ddwys a phellgyrhaeddol.Wrth i ni nodi chwarter canrif o lunio polisi datganoledig mewn addysg, mae'r rhifyn arbennig hwn yn dathlu'r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus y mae system addysg Cymru yn eu hwynebu.Wedi canrifoedd o fod ym magl yr hyn y mae Jones a Roderick yn ei alw'n wladwriaeth 'Cymru/Lloegr' ( Jones a Roderick, 2003, t. vii), cyrhaeddodd y pŵer i reoli bron pob agwedd ar addysg yng Nghymru gyda datganoli ym 1999.Cyn hyn, yn ystod yr ugeinfed ganrif, roedd Cymru wedi ennill rhywfaint o dir wrth lunio rhai agweddau ar y system addysg i adlewyrchu ei hunaniaeth hanesyddol, ddiwylliannol ac ieithyddol unigryw, megis y Cwricwlwm Cymreig a thwf addysg cyfrwng Cymraeg.Ac eto, roedd y gallu i ddatblygu a rheoli system addysg
Language: English
Subfield: History
Open Access status: hybrid
OpenAlex ID: W4404928114
FWCI:
Cites:
Cited by:
Related to: 10