Work

Crynhoi Testun Awtomatig ar gyfer y Gymraeg

Year: 2024
Type: article
Abstract: Cyhoeddwn y gyfrol hon, yr ail yng nghyfres Iaith a Thechnoleg yng Nghymru, yn ystod cyfnod hynod gyffrous ym myd Technoleg Iaith.Nid yw Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gysyniad newydd, 1 fodd bynnag dros y flwyddyn ddiwethaf mae nid yn unig wedi tanio diddordeb academyddion, ond hefyd wedi dod yn rhan o fywydau bob dydd y cyhoedd.Yn ddiweddar, mae AI wedi bod yn bresennol yn aml yn y papurau newydd, yn bapurau poblogaidd a phapurau newydd safonol fel ei gilydd.Mae AI wedi'i wneud yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen.Mae'r sawl sydd â mynediad i'r rhyngrwyd yn gallu defnyddio AI trwy sgwrsfotiaid fel Copilot Microsoft a ChatGPT OpenAI.Mae cymwysiadau AI yn amrywiol ac yn niferus, heb fod wedi'u cyfyngu'n benodol i Dechnoleg Iaith nac i sgwrsfotiaid.Er enghraifft, mae AI yn cael ei ddefnyddio i wella cynhyrchiant cnydau, 2 i adnabod paentiadau ffug ar e-bay, 3 ac i uwchraddio a gwella delweddau teledu.4 Mae gan AI y potensial i wneud daioni mawr, ond os na fydd y dechnoleg hon ar gael i ieithoedd lleiafrifedig fe allai gael effaith ddinistriol o ran statws canfyddedig neu ddefnydd yr ieithoedd hynny.Mae angen i AI fod ar gael ar gyfer ieithoedd lleiafrifedig, felly, er mwyn sicrhau nad oes rhwystrau ieithyddol i ddefnyddio'r dechnoleg honno, ac fel nad yw siaradwyr ieithoedd lleiafrifedig yn troi cefn ar eu hiaith eu hun er mwyn gallu defnyddio AI.Ond hyd yn oed heb ystyried yr effaith ar ddefnydd a statws iaith, mae angen datblygu'r dechnoleg hon ymhellach, a hynny mewn meysydd sy'n effeithio ar ieithoedd lleiafrifedig a rhai mwyafrifol fel ei gilydd.Gall ddioddef o ddrychiolaethau, lle mae'r system:"perceives patterns or objects that are non-existent or imperceptible to human observers, creating outputs that are nonsensical or altogether inaccurate."[1] Fel yr adroddwyd yn eang, mae'r ynni a ddefnyddir, ac felly effaith amgylcheddol hyfforddi a defnyddio modelau AI, yn bryderus o uchel.5 Mae gan hyd yn oed un defnydd unigol (neu inference) o'r dechnoleg gost ynni ac ôl troed carbon sy'n ofnadwy o uchel.Wrth drafod canlyniadau eu hymchwil, noda Luccioni et al. [2]:"the most efficient text generation model uses as much energy as 16% of a full smartphone charge for 1,000 inferences, whereas the least efficient image generation model uses as much energy as 950 smartphone charges (11.49kWh), or nearly 1 charge per image generation."Mae rhai yn pryderu am effaith AI ar swyddi ac ar yr economi, ac yn wir mae Georgieva [3] yn honni "AI will affect almost 40 percent of jobs around the world, replacing some and complementing others". ymlaen i honni y gallai'r ffigwr hwn gynyddu i 60 y cant mewn economïau datblygedig.
Language: Welsh
Open Access status: green
Funder: Samsung
OpenAlex ID: W7055639774
FWCI:
Cites: 14
Cited by:
Related to: 10